Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Finding your way around? See how the new Bible Gateway works. Take the tour.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Understand more as you read. Try Bible Gateway Plus.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Eseia 33  Beibl William Morgan

33 Gwae di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo i ti anrheithio, y’th anrheithir; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant anffyddlon i ti. 2 Arglwydd, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd. 3 Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd. 4 A’ch ysbail a gynullir fel cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt. 5 Dyrchafwyd yr Arglwydd; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder. 6 A sicrwydd dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr Arglwydd yw ei drysor ef. 7 Wele, eu rhai dewrion a waeddant oddi allan: cenhadon heddwch a wylant yn chwerw. 8 Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfu cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion. 9 Galarodd a llesgaodd y ddaear; cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel. 10 Cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach. 11 Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tân a’ch ysa chwi. 12 A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân.

13 Gwrandewch, belledigion, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth. 14 Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol? 15 Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw trawster, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni; 16 Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr. 17 Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant y tir pell. 18 Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau? 19 Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech. 20 Gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau. 21 Eithr yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydiau llydain: y rhwyflong nid â trwyddo, a llong odidog nid â drosto. 22 Canys yr Arglwydd yw ein barnwr, yr Arglwydd yw ein deddfwr, yr Arglwydd yw ein brenin; efe a’n ceidw. 23 Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth. 24 Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.

Next
Eseia 32
Eseia 34
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway