Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Finding your way around? See how the new Bible Gateway works. Take the tour.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Read Scripture without ads. Try Bible Gateway Plus.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Eseia 11  Beibl William Morgan

11 Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef. 2 Ac ysbryd yr Arglwydd a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd; 3 Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. 4 Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir. 5 A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau. 6 A’r blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a’r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain. 7 Y fuwch hefyd a’r arth a borant ynghyd; eu llydnod a gydorweddant: y llew, fel yr ych, a bawr wellt. 8 A’r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asb; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law. 9 Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.

10 Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a’i orffwysfa fydd yn ogoniant. 11 Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. 12 Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd, ac a gynnull grwydraid Israel, ac a gasgl wasgaredigion Jwda o bedair congl y ddaear. 13 Cenfigen Effraim a ymedy hefyd, a gwrthwynebwyr Jwda a dorrir ymaith: ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni chyfynga Jwda ar Effraim. 14 Ond hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tua’r gorllewin; ynghyd yr ysbeiliant feibion y dwyrain: hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab, a meibion Ammon fydd mewn ufudd‐dod iddynt. 15 Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft, ac â’i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon, ac a’i tery hi yn y saith ffrwd, ac a wna fyned drosodd yn droetsych. 16 A hi a fydd yn briffordd i weddill ei bobl ef y rhai a adewir o Asyria, megis ag y bu i Israel yn y dydd y daeth efe i fyny o dir yr Aifft.

Next
Eseia 10
Eseia 12
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway