Add parallel Print Page Options

38 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Gosod dy wyneb, fab dyn, yn erbyn Gog, tir Magog, pen‐tywysog Mesech a Thubal, a phroffwyda yn ei erbyn, A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal. Dychwelaf di hefyd, a rhoddaf fachau yn dy fochgernau, a mi a’th ddygaf allan, a’th holl lu, y meirch a’r marchogion, wedi eu gwisgo i gyd â phob rhyw arfau, yn gynulleidfa fawr â tharianau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau: Persia, Ethiopia, a Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm: Gomer a’i holl fyddinoedd; tŷ Togarma o ystlysau y gogledd, a’i holl fyddinoedd; a phobl lawer gyda thi. Ymbaratoa, ie, paratoa i ti dy hun, ti a’th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat, a bydd yn gadwraeth iddynt.

Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi; yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o’r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch. Dringi hefyd fel tymestl; deui, a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear, ti a’th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyda thi. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i’th feddwl, a thi a feddyli feddwl drwg. 11 A thi a ddywedi, Mi a af i fyny i wlad maestrefydd; af at y rhai llonydd, y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt, 12 I ysbeilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o’r cenhedloedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad. 13 Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, â’u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?

14 Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y dydd hwnnw, pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod? 15 A thi a ddeui o’th fangre dy hun o ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyda thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirch, yn dyrfa fawr, ac yn llu lluosog. 16 A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaear: yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a mi a’th ddygaf yn erbyn fy nhir, fel yr adwaeno y cenhedloedd fi, pan ymsancteiddiwyf ynot ti, Gog, o flaen eu llygaid hwynt. 17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proffwydi Israel, y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt? 18 A bydd yn y dydd hwnnw, yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel, medd yr Arglwydd Dduw, i’m llid gyfodi yn fy soriant. 19 Canys yn fy eiddigedd, ac yn angerdd fy nicllonedd y dywedais, Yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn nhir Israel; 20 Fel y cryno pysgod y môr, ac ehediaid y nefoedd, a bwystfilod y maes, a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a phob dyn ar wyneb y ddaear, ger fy mron i; a’r mynyddoedd a ddryllir i lawr, a’r grisiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr. 21 A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd. 22 Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed: glawiaf hefyd gurlaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef. 23 Fel hyn yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.