
Eseciel 38 Beibl William Morgan (BWM)38 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2 Gosod dy wyneb, fab dyn, yn erbyn Gog, tir Magog, pen‐tywysog Mesech a Thubal, a phroffwyda yn ei erbyn, 3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal. 4 Dychwelaf di hefyd, a rhoddaf fachau yn dy fochgernau, a mi a’th ddygaf allan, a’th holl lu, y meirch a’r marchogion, wedi eu gwisgo i gyd â phob rhyw arfau, yn gynulleidfa fawr â tharianau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau: 5 Persia, Ethiopia, a Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm: 6 Gomer a’i holl fyddinoedd; tŷ Togarma o ystlysau y gogledd, a’i holl fyddinoedd; a phobl lawer gyda thi. 7 Ymbaratoa, ie, paratoa i ti dy hun, ti a’th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat, a bydd yn gadwraeth iddynt. 8 Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi; yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o’r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch. 9 Dringi hefyd fel tymestl; deui, a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear, ti a’th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyda thi. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i’th feddwl, a thi a feddyli feddwl drwg. 11 A thi a ddywedi, Mi a af i fyny i wlad maestrefydd; af at y rhai llonydd, y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt, 12 I ysbeilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o’r cenhedloedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad. 13 Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, â’u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr? 14 Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y dydd hwnnw, pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod? 15 A thi a ddeui o’th fangre dy hun o ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyda thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirch, yn dyrfa fawr, ac yn llu lluosog. 16 A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaear: yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a mi a’th ddygaf yn erbyn fy nhir, fel yr adwaeno y cenhedloedd fi, pan ymsancteiddiwyf ynot ti, Gog, o flaen eu llygaid hwynt. 17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proffwydi Israel, y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt? 18 A bydd yn y dydd hwnnw, yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel, medd yr Arglwydd Dduw, i’m llid gyfodi yn fy soriant. 19 Canys yn fy eiddigedd, ac yn angerdd fy nicllonedd y dywedais, Yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn nhir Israel; 20 Fel y cryno pysgod y môr, ac ehediaid y nefoedd, a bwystfilod y maes, a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a phob dyn ar wyneb y ddaear, ger fy mron i; a’r mynyddoedd a ddryllir i lawr, a’r grisiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr. 21 A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd. 22 Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed: glawiaf hefyd gurlaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef. 23 Fel hyn yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.