Add parallel Print Page Options

32 Ac yn y deuddegfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda’th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd â’th draed, a methraist eu hafonydd hwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a’th godant yn fy rhwyd i. Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear. Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd â’th uchder di. Mwydaf hefyd â’th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot. Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu sêr hwynt: yr haul a guddiaf â chwmwl, a’r lleuad ni wna i’w goleuni oleuo. Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd Dduw. A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost. 10 A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a’u brenhinoedd a ofnant yn fawr o’th blegid, pan wnelwyf i’m cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.

11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti. 12 A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft, a’i holl liaws hi a ddinistrir. 13 Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt. 14 Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt, a gwnaf i’w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd Dduw. 15 Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o’i llawnder, pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi, yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 16 Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oll, medd yr Arglwydd Dduw.

17 Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 18 Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i’r tir isaf, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 19 Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda’r rhai dienwaededig. 20 Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â’r cleddyf: i’r cleddyf y rhoddwyd hi; llusgwch hi a’i lliaws oll. 21 Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda’i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf. 22 Yno y mae Assur a’i holl gynulleidfa, a’i feddau o amgylch; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf. 23 Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll, a’i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw. 24 Yno y mae Elam a’i holl liaws o amgylch ei bedd, wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i’r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 25 Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â’i holl liaws; a’i beddau o’i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd â’r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef. 26 Yno y mae Mesech, Tubal, a’i holl liaws; a’i beddau o amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf, er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw. 27 Ac ni orweddant gyda’r cedyrn a syrthiasant o’r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern â’u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy, er eu bod yn arswyd i’r cedyrn yn nhir y rhai byw. 28 A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf. 29 Yno y mae Edom, a’i brenhinoedd, a’i holl dywysogion, y rhai a roddwyd â’u cadernid gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf: hwy a orweddant gyda’r rhai dienwaededig, a chyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 30 Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a’r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda’r lladdedigion; gyda’u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 31 Pharo a’u gwêl hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a’i holl lu wedi eu lladd â’r cleddyf, medd yr Arglwydd Dduw. 32 Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i’w holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.