Add parallel Print Page Options

24 Drachefn yn y nawfed flwyddyn, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn, fab dyn, ie, corff y dydd hwn: ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn. A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthryfelgar, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gosod y crochan, gosod, a thywallt hefyd ddwfr ynddo. Casgl ei ddrylliau iddo, pob dryll teg, y morddwyd, a’r ysgwyddog; llanw ef â’r dewis esgyrn. Cymer ddewis o’r praidd, a chynnau yr esgyrn dano, a berw ef yn ferwedig; ie, berwed ei esgyrn o’i fewn.

Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn, Gwae ddinas y gwaed, y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo, ac nid aeth ei ysgum allan ohono: tyn ef allan bob yn ddryll: na syrthied coelbren arno. Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol: ar gopa craig y gosododd hi ef; nis tywalltodd ar y ddaear, i fwrw arno lwch: I beri i lid godi i wneuthur dial; rhoddais ei gwaed hi ar gopa craig, rhag ei guddio. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Gwae ddinas y gwaed! minnau a wnaf ei thanllwyth yn fawr. 10 Amlha y coed, cynnau y tân, difa y cig, a gwna goginiaeth, a llosger yr esgyrn. 11 A dod ef ar ei farwor yn wag, fel y twymo, ac y llosgo ei bres, ac y toddo ei aflendid ynddo, ac y darfyddo ei ysgum. 12 Ymflinodd â chelwyddau, ac nid aeth ei hysgum mawr allan ohoni: yn tân y bwrir ei hysgum hi. 13 Yn dy aflendid y mae ysgelerder: oherwydd glanhau ohonof di, ac nid wyt lân, o’th aflendid ni’th lanheir mwy, hyd oni pharwyf i’m llid orffwys arnat. 14 Myfi yr Arglwydd a’i lleferais: daw, a gwnaf; nid af yn ôl ac nid arbedaf, ac nid edifarhaf. Yn ôl dy ffyrdd, ac yn ôl dy weithredoedd, y barnant di, medd yr Arglwydd Dduw.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 16 Wele, fab dyn, fi yn cymryd oddi wrthyt ddymuniant dy lygaid â dyrnod: eto na alara ac nac wyla, ac na ddeued dy ddagrau. 17 Taw â llefain, na wna farwnad; rhwym dy gap am dy ben, a dod dy esgidiau am dy draed, ac na chae ar dy enau, na fwyta chwaith fara dynion. 18 Felly y lleferais wrth y bobl y bore; a bu farw fy ngwraig yn yr hwyr; a gwneuthum y bore drannoeth fel y gorchmynasid i mi.

19 A’r bobl a ddywedasant wrthyf, Oni fynegi i mi beth yw hyn i ni, gan i ti wneuthur felly? 20 Yna y dywedais wrthynt, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 21 Dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn halogi fy nghysegr, godidowgrwydd eich nerth, dymuniant eich llygaid, ac anwyldra eich enaid: a’ch meibion a’ch merched, y rhai a adawsoch, a syrthiant gan y cleddyf. 22 Ac fel y gwneuthum i, y gwnewch chwithau; ni chaewch ar eich geneuau, ac ni fwytewch fara dynion. 23 Byddwch â’ch capiau am eich pennau, a’ch esgidiau am eich traed: ni alerwch, ac nid wylwch; ond am eich anwiredd y dihoenwch, ac ochneidiwch bob un wrth ei gilydd. 24 Felly y mae Eseciel yn arwydd i chwi: yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe, y gwnewch chwithau: a phan ddelo hyn, chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw. 25 Tithau fab dyn, onid yn y dydd y cymeraf oddi wrthynt eu nerth, llawenydd eu gogoniant, dymuniant eu llygaid, ac anwyldra eu henaid, eu meibion a’u merched, 26 Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddihango, atat, i beri i ti ei glywed â’th glustiau? 27 Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango; lleferi hefyd, ac ni byddi fud mwy: a byddi iddynt yn arwydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.