Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Read Scripture without ads. Study with fewer distractions with Bible Gateway Plus.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
One verse. Every morning. Sign up.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Eseciel 42  Beibl William Morgan

42 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua’r gogledd; ac a’m dug i’r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol, yr hon oedd ar gyfer yr adail tua’r gogledd. 2 Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain. 3 Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i’r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i’r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder. 4 Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a’u drysau tua’r gogledd. 5 A’r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na’r rhai hyn, na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r adeiladaeth. 6 Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r llawr i fyny. 7 A’r mur yr hwn oedd o’r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua’r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd. 8 Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain: ac wele, o flaen y deml yr oedd can cufydd. 9 Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain, ffordd yr elid iddynt hwy o’r cyntedd nesaf allan. 10 O fewn tewder mur y cyntedd tua’r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yr oedd yr ystafelloedd. 11 A’r ffordd o’u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r gogledd; un hyd â hwynt oeddynt, ac un lled â hwynt: a’u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt. 12 Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua’r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.

13 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesânt at yr Arglwydd, y pethau sanctaidd cysegredig: yno y gosodant y sanctaidd bethau cysegredig, a’r bwyd‐offrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd; canys y lle sydd sanctaidd. 14 A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o’r cysegr i’r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt; am eu bod yn sanctaidd; ac a wisgant wisgoedd eraill, ac a nesânt at yr hyn a berthyn i’r bobl. 15 Pan orffenasai efe fesuro y tŷ oddi fewn, efe a’m dug i tua’r porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain, ac a’i mesurodd ef o amgylch ogylch. 16 Efe a fesurodd du y dwyrain â chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch. 17 Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch. 18 Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

19 Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y gorsen fesur. 20 Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a’r digysegr.

Next
Eseciel 41
Eseciel 43
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway