Effesiaid 6
Beibl William Morgan
6 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn. 2 Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) 3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear. 4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. 5 Y gweision, ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist; 6 Nid â golwg‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; 7 Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion: 8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo. 9 A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. 10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. 11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. 13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. 14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. 17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: 18 Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; 19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; 20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu. 21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth: 22 Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi. 23 Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 24 Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.
At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.