Add parallel Print Page Options

Fy mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr, Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau. Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â’th gymydog. Na ddyro gwsg i’th lygaid, na hun i’th amrantau. Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr.

Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth: Nid oes ganddo neb i’w arwain, i’w lywodraethu, nac i’w feistroli; Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf. Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o’th gwsg? 10 Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu. 11 Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.

12 Dyn i’r fall, a gŵr anwir, a rodia â genau cyndyn. 13 Efe a amneidia â’i lygaid, efe a lefara â’i draed, efe a ddysg â’i fysedd. 14 Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau. 15 Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.

16 Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr Arglwydd: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef: 17 Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion, 18 Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni, 19 Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.

20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam. 21 Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf. 22 Pan rodiech, hi a’th gyfarwydda; pan orweddych, hi a’th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi. 23 Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg: 24 I’th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr. 25 Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau. 26 Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr. 27 A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad? 28 A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed? 29 Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân. 30 Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn: 31 Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ. 32 Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a’i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun. 33 Archoll a gwarth a gaiff efe; a’i gywilydd ni ddileir. 34 Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial. 35 Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.