Add parallel Print Page Options

31 Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau? Na ddyro i wragedd dy nerth; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd. Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn: Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig. Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon. Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy. Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr. Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus.

10 Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl. 11 Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith. 12 Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. 13 Hi a gais wlân a llin, ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar. 14 Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell. 15 Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau. 16 Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan. 17 Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau. 18 Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos. 19 Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail. 20 Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus. 21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad. 22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor. 23 Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad. 24 Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr. 25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd. 26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi. 27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd. 28 Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi: 29 Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll. 30 Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod. 31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.