Add parallel Print Page Options

24 Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt: Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder. Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef: A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd. Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth. Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch. Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth. Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler. Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus. 10 Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth. 11 Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd? 12 Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred? 13 Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau. 14 Felly y bydd gwybodaeth doethineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla. 15 Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef. 16 Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni. 17 Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon: 18 Rhag i’r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti. 19 Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion: 20 Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir. 21 Fy mab, ofna yr Arglwydd a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad: 22 Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?

23 Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn. 24 Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a’i melltithiant ef, cenhedloedd a’i ffieiddiant ef: 25 Ond i’r neb a’i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt. 26 Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn. 27 Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ. 28 Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â’th wefusau. 29 Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred. 30 Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall; 31 Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr. 32 Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg. 33 Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu: 34 Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.