Diarhebion 10
Beibl William Morgan
10 Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam. 2 Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau. 3 Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus. 4 Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga. 5 Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf. 6 Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus. 7 Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra. 8 Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp. 9 Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam‐dry ei ffyrdd, a fydd hynod. 10 Y neb a amneidio â’i lygaid, a bair flinder: a’r ffôl ei wefusau a gwymp. 11 Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus. 12 Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd. 13 Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall. 14 Y doethion a ystoriant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl. 15 Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi. 16 Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod. 17 Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni. 18 A guddio gas â gwefusau celwyddog, a’r neb a ddywed enllib, sydd ffôl. 19 Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod: ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol. 20 Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig. 21 Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw. 22 Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi. 23 Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb. 24 Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, Duw a’i rhydd. 25 Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth. 26 Megis finegr i’r dannedd, a mwg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb a’i gyrrant. 27 Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir. 28 Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano. 29 Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i’r perffaith: ond dinistr fydd i’r rhai a wnânt anwiredd. 30 Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear. 31 Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith. 32 Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.