Add parallel Print Page Options

24 Pan gymero gŵr wraig, a’i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ. Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall: Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo: Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.

Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.

Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.

Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.

Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy. Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Aifft.

10 Pan fenthycieth i’th gymydog fenthyg dim, na ddos i’w dŷ ef i gymryd ei wystl ef. 11 Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti. 12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â’i wystl gyda thi. 13 Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.

14 Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: 15 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot. 16 Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.

17 Na ŵyra farn y dieithr na’r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw. 18 Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

19 Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymryd: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo. 20 Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 21 Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 22 Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

24 If a man marries a woman who becomes displeasing to him(A) because he finds something indecent about her, and he writes her a certificate of divorce,(B) gives it to her and sends her from his house, and if after she leaves his house she becomes the wife of another man, and her second husband dislikes her and writes her a certificate of divorce, gives it to her and sends her from his house, or if he dies, then her first husband, who divorced her, is not allowed to marry her again after she has been defiled. That would be detestable in the eyes of the Lord. Do not bring sin upon the land the Lord(C) your God is giving you as an inheritance.

If a man has recently married, he must not be sent to war or have any other duty laid on him. For one year he is to be free to stay at home and bring happiness to the wife he has married.(D)

Do not take a pair of millstones—not even the upper one—as security for a debt, because that would be taking a person’s livelihood as security.(E)

If someone is caught kidnapping a fellow Israelite and treating or selling them as a slave, the kidnapper must die.(F) You must purge the evil from among you.(G)

In cases of defiling skin diseases,[a] be very careful to do exactly as the Levitical(H) priests instruct you. You must follow carefully what I have commanded them.(I) Remember what the Lord your God did to Miriam along the way after you came out of Egypt.(J)

10 When you make a loan of any kind to your neighbor, do not go into their house to get what is offered to you as a pledge.(K) 11 Stay outside and let the neighbor to whom you are making the loan bring the pledge out to you. 12 If the neighbor is poor, do not go to sleep with their pledge(L) in your possession. 13 Return their cloak by sunset(M) so that your neighbor may sleep in it.(N) Then they will thank you, and it will be regarded as a righteous act in the sight of the Lord your God.(O)

14 Do not take advantage of a hired worker who is poor and needy, whether that worker is a fellow Israelite or a foreigner residing in one of your towns.(P) 15 Pay them their wages each day before sunset, because they are poor(Q) and are counting on it.(R) Otherwise they may cry to the Lord against you, and you will be guilty of sin.(S)

16 Parents are not to be put to death for their children, nor children put to death for their parents; each will die for their own sin.(T)

17 Do not deprive the foreigner or the fatherless(U) of justice,(V) or take the cloak of the widow as a pledge. 18 Remember that you were slaves in Egypt(W) and the Lord your God redeemed you from there. That is why I command you to do this.

19 When you are harvesting in your field and you overlook a sheaf, do not go back to get it.(X) Leave it for the foreigner,(Y) the fatherless and the widow,(Z) so that the Lord your God may bless(AA) you in all the work of your hands. 20 When you beat the olives from your trees, do not go over the branches a second time.(AB) Leave what remains for the foreigner, the fatherless and the widow. 21 When you harvest the grapes in your vineyard, do not go over the vines again. Leave what remains for the foreigner, the fatherless and the widow. 22 Remember that you were slaves in Egypt. That is why I command you to do this.(AC)

Footnotes

  1. Deuteronomy 24:8 The Hebrew word for defiling skin diseases, traditionally translated “leprosy,” was used for various diseases affecting the skin.