Datguddiad 16
Beibl William Morgan
16 Ac mi a glywais lef uchel allan o’r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear. 2 A’r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. 3 A’r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr. 4 A’r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd; a hwy a aethant yn waed. 5 Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn. 6 Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i’w yfed; canys y maent yn ei haeddu. 7 Ac mi a glywais un arall allan o’r allor yn dywedyd, Ie, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di. 8 A’r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân. 9 A phoethwyd y dynion â gwres mawr; a hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef. 10 A’r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a’i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid, 11 Ac a gablasant Dduw’r nef, oherwydd eu poenau, ac oherwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd. 12 A’r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates; a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain. 13 Ac mi a welais dri ysbryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau’r gau broffwyd. 14 Canys ysbrydion cythreuliaid, yn gwneuthur gwyrthiau, ydynt, y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear, a’r holl fyd, i’w casglu hwy i ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Hollalluog. 15 Wele, yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef. 16 Ac efe a’u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg, Armagedon. 17 A’r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i’r awyr; a daeth llef uchel allan o deml y nef, oddi wrth yr orseddfainc, yn dywedyd, Darfu. 18 Ac yr oedd lleisiau a tharanau, a mellt; ac yr oedd daeargryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear, cymaint daeargryn, ac mor fawr. 19 A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw, i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef. 20 A phob ynys a ffodd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd. 21 A chenllysg mawr, fel talentau, a syrthiasant o’r nef ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am bla’r cenllysg: oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.