Add parallel Print Page Options

A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd, wedi marw Ehwd. A’r Arglwydd a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor: a thywysog ei lu ef oedd Sisera; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd. A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd.

A Debora y broffwydes, gwraig Lapidoth, hyhi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw. Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel, ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn. A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes‐Nafftali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchmynnodd Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Dos, a thyn tua mynydd Tabor, a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr, o feibion Nafftali, ac o feibion Sabulon? A mi a dynnaf atat, i afon Cison, Sisera tywysog llu Jabin, a’i gerbydau, a’i liaws; ac a’i rhoddaf ef yn dy law di. A Barac a ddywedodd wrthi, Od ei di gyda mi, minnau a af; ac onid ei gyda mi, nid af. A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr Arglwydd Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes.

10 A Barac a gynullodd Sabulon a Nafftali i Cedes; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed: a Debora a aeth i fyny gydag ef. 11 A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes. 12 A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor. 13 A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau, sef naw can cerbyd haearn, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison. 14 A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr Arglwydd Sisera yn dy law di: onid aeth yr Arglwydd allan o’th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl. 15 A’r Arglwydd a ddrylliodd Sisera, a’i holl gerbydau, a’i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed. 16 Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un ohonynt. 17 Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.

18 A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i’r babell, a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban. 19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a’i diododd ef, ac a’i gorchuddiodd. 20 Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes. 21 Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a’i gwthiodd i’r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw. 22 Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i’w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais. 23 Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel. 24 A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.