Add parallel Print Page Options

19 Ac yn y dyddiau hynny, pan nad oedd frenin yn Israel, yr oedd rhyw Lefiad yn aros yn ystlysau mynydd Effraim, ac efe a gymerodd iddo ordderchwraig o Bethlehem Jwda. A’i ordderchwraig a buteiniodd yn ei erbyn ef, ac a aeth ymaith oddi wrtho ef i dŷ ei thad, i Bethlehem Jwda; ac yno y bu hi bedwar mis o ddyddiau. A’i gŵr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl, i ddywedyd yn deg wrthi hi, ac i’w throi adref; a’i lanc oedd gydag ef, a chwpl o asynnod. A hi a’i dug ef i mewn i dŷ ei thad: a phan welodd tad y llances ef, bu lawen ganddo gyfarfod ag ef. A’i chwegrwn ef, tad y llances, a’i daliodd ef yno; ac efe a dariodd gydag ef dridiau. Felly bwytasant ac yfasant, a lletyasant yno. A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore; yntau a gyfododd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd wrth ei ddaw, Nertha dy galon â thamaid o fara, ac wedi hynny ewch ymaith. A hwy a eisteddasant, ac a fwytasant ill dau ynghyd, ac a yfasant. A thad y llances a ddywedodd wrth y gŵr, Bydd fodlon, atolwg, ac aros dros nos, a llawenyched dy galon. A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, ei chwegrwn a fu daer arno: am hynny efe a drodd ac a letyodd yno. Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd, Cysura dy galon, atolwg. A hwy a drigasant hyd brynhawn, ac a fwytasant ill dau. A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, efe a’i ordderch, a’i lanc; ei chwegrwn, tad y llances, a ddywedodd wrtho, Wele, yn awr, y dydd a laesodd i hwyrhau; arhoswch dros nos, atolwg: wele yr haul yn machludo; trig yma, fel y llawenycho dy galon: a chodwch yn fore yfory i’ch taith, fel yr elych i’th babell. 10 A’r gŵr ni fynnai aros dros nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a’i ordderchwraig gydag ef. 11 A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a’r llanc a ddywedodd wrth ei feistr, Tyred, atolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lletywn ynddi. 12 A’i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea. 13 Ac efe a ddywedodd wrth ei lanc, Tyred, a nesawn i un o’r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama. 14 Felly y cerddasant, ac yr aethant: a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin. 15 A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a’u cymerai hwynt i’w dŷ i letya.

16 Ac wele ŵr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr; a’r gŵr oedd o fynydd Effraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini. 17 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinas: a’r hen ŵr a ddywedodd, I ba le yr ei di? ac o ba le y daethost? 18 Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda, i ystlys mynydd Effraim, o’r lle yr hanwyf: a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda, a myned yr ydwyf i dŷ yr Arglwydd; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ. 19 Y mae gennym ni wellt ac ebran hefyd i’n hasynnod; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th lawforwyn, ac i’r llanc sydd gyda’th weision: nid oes eisiau dim. 20 A’r hen ŵr a ddywedodd, Tangnefedd i ti: bydded dy holl eisiau arnaf fi; yn unig na letya yn yr heol. 21 Felly efe a’i dug ef i mewn i’w dŷ, ac a borthodd yr asynnod: a hwy a olchasant eu traed, ac a fwytasant ac a yfasant.

22 A phan oeddynt hwy yn llawenhau eu calon, wele, gwŷr y ddinas, rhai o feibion Belial, a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant wrth berchen y tŷ, sef yr hen ŵr, gan ddywedyd, Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i’th dŷ, fel yr adnabyddom ef. 23 A’r gŵr, perchen y tŷ, a aeth allan atynt, ac a ddywedodd wrthynt, Nage, fy mrodyr, nage, atolwg, na wnewch mor ddrygionus: gan i’r gŵr hwn ddyfod i’m tŷ i, na wnewch yr ysgelerder hyn. 24 Wele fy merch, yr hon sydd forwyn, a’i ordderch yntau; dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i’r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler. 25 Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch, ac a’i dug hi allan atynt hwy. A hwy a’i hadnabuant hi, ac a wnaethant gam â hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a’i gollyngasant hi ymaith. 26 Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleuni y dydd. 27 A’i harglwydd a gyfododd y bore, ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i’w daith: ac wele ei ordderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a’i dwy law ar y trothwy. 28 Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn ateb. Yna efe a’i cymerth hi ar yr asyn; a’r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w fangre.

29 A phan ddaeth i’w dŷ, efe a gymerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch. ac a’i darniodd hi, ynghyd â’i hesgyrn, yn ddeuddeg darn, ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel. 30 A phawb a’r a welodd hynny, a ddywedodd, Ni wnaethpwyd ac ni welwyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch eich meddwl.