Add parallel Print Page Options

22 A Dafydd a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i; Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dŵr a’m noddfa, fy achubwr; rhag trais y’m hachubaist. Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. Canys gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i. Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant. Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef. Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio. Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, a thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef. 10 Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef. 11 Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt. 12 Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. 13 Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd. 14 Yr Arglwydd a daranodd o’r nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef. 15 Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a’u drylliodd hwynt. 16 Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr Arglwydd, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef. 17 Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer. 18 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion; am eu bod yn drech na mi. 19 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi. 20 Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof. 21 Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. 22 Canys mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. 23 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i. 24 Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd. 25 A’r Arglwydd a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef. 26 A’r trugarog y gwnei drugaredd: â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. 27 A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. 28 Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng. 29 Canys ti yw fy nghannwyll i, O Arglwydd; a’r Arglwydd a lewyrcha fy nhywyllwch. 30 Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur. 31 Duw sydd berffaith ei ffordd; ymadrodd yr Arglwydd sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo. 32 Canys pwy sydd Dduw, heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig, eithr ein Duw ni? 33 Duw yw fy nghadernid a’m nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith. 34 Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd. 35 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau. 36 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac â’th fwynder y lluosogaist fi. 37 Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau. 38 Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt. 39 Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i. 40 Canys ti a’m gwregysaist i â nerth i ryfel: y rhai a ymgyfodent i’m herbyn, a ddarostyngaist danaf. 41 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion. 42 Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr Arglwydd, ond nid atebodd hwynt. 43 Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel tom yr heolydd, a thaenais hwynt. 44 Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant. 45 Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwrandawant arnaf fi. 46 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o’u carchardai. 47 Byw fyddo yr Arglwydd, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth. 48 Duw sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi, 49 Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn; rhag y gŵr traws y’m hachubaist i. 50 Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 51 Efe sydd dŵr iachawdwriaeth i’w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had yn dragywydd.