Add parallel Print Page Options

Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd â’r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron. A Dafydd a aeth i fyny yno, a’i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad. A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un â’i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron. A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.

A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul, ac a’i claddasoch ef. Ac yn awr yr Arglwydd a wnelo â chwi drugaredd a gwirionedd: minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn. Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt.

Ond Abner mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymerth Isboseth mab Saul, ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim; Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jesreel, ac ar Effraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel. 10 Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel; a dwy flynedd y teyrnasodd efe. Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd. 11 A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda, oedd saith mlynedd a chwe mis.

12 Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth mab Saul, a aethant allan o Mahanain i Gibeon. 13 Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o’r naill du, a’r lleill wrth y llyn o’r tu arall. 14 Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant. 15 Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd. 16 A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon. 17 A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.

18 A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes. 19 Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner; ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner. 20 Yna Abner a edrychodd o’i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi. 21 A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o’r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef. Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef. 22 Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny? 23 Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a’i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a’r waywffon a aeth allan o’r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant. 24 Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon.

25 A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner, ac a aethant yn un fintai, ac a safasant ar ben bryn. 26 Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddywedodd, Ai byth y difa y cleddyf? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr? 27 A dywedodd Joab, Fel mai byw Duw, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd. 28 Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a’r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach. 29 Ac Abner a’i wŷr a aethant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim. 30 A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner: ac wedi iddo gasglu’r holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg, ac Asahel. 31 A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin, ac o wŷr Abner, dri chant a thrigain gŵr, fel y buant feirw.

32 A hwy a gymerasant Asahel, ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt.