Add parallel Print Page Options

Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch. Oblegid os myfi a’ch tristâf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi? Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll. Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y’ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi. Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll. Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd. Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch. Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef. Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth. 10 I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist; 11 Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef. 12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd, 13 Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu’n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia. 14 Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle. 15 Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig: 16 I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn? 17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.