Add parallel Print Page Options

15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda. Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef: Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

A’r Arglwydd a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o’r neilltu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad. A’r rhan arall o hanes Asareia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? Ac Asareia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda, y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, megis y gwnaethai ei dadau: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 10 A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef gerbron y bobl, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 11 A’r rhan arall o hanes Sachareia, wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel. 12 Dyma air yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu.

13 Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia, brenin Jwda, a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria. 14 Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa, ac a ddaeth i Samaria, ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 15 A’r rhan arall o hanes Salum, a’i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

16 Yna Menahem a drawodd Tiffsa, a’r rhai oll oedd ynddi, a’i therfynau, o Tirsa: oherwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y trawodd efe hi; a’i holl wragedd beichiogion a rwygodd efe. 17 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel, a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria. 18 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe yn ei holl ddyddiau oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 19 A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddai ei law gydag ef, i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef. 20 A Menahem a gododd yr arian ar Israel, sef ar yr holl rai cedyrn o allu, ar bob un ddeg sicl a deugain o arian, i’w rhoddi i frenin Asyria; felly brenin Asyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlad.

21 A’r rhan arall o hanes Menahem, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 22 A Menahem a hunodd gyda’i dadau; a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

23 Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd y teyrnasodd efe. 24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 25 A Pheca mab Remaleia ei dywysog ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 26 A’r rhan arall o hanes Pecaheia, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

27 Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria, ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe. 28 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 29 Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglath‐pileser brenin Asyria, ac a enillodd Ijon, ac Abel‐beth‐maacha, a Janoa, Cedes hefyd, a Hasor, a Gilead, a Galilea, holl wlad Nafftali, ac a’u caethgludodd hwynt i Asyria. 30 A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia, ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham mab Usseia. 31 A’r rhan arall o hanes Peca, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

32 Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu. 33 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jerwsa, merch Sadoc. 34 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd; yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe.

35 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd.

36 A’r rhan arall o hanes Jotham, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd anfon yn erbyn Jwda, Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia. 38 A Jotham a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad, ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.