Add parallel Print Page Options

23 Dyma eiriau diwethaf Dafydd. Dywedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd ganiedydd Israel; Ysbryd yr Arglwydd a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod. Duw Israel a ddywedodd wrthyf fi, Craig Israel a ddywedodd, Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn Duw: Ac efe a fydd fel y bore‐oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw. Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.

A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt. Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.

Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith. Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith. 10 Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio. 11 Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A’r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys: a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid. 12 Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a’i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid. Felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr. 13 A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 14 A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa: a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem. 15 A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a’m dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth? 16 A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant hefyd, ac a’i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd; 17 Ac a ddywedodd, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny. 18 Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o’r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri. 19 Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf. 20 A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. 21 Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun. 22 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn. 23 Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard. 24 Asahel brawd Joab oedd un o’r deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad, 25 Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad, 26 Heles y Paltiad, Ira mab Icces y Tecoiad, 27 Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad, 28 Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad, 29 Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, 30 Benaia y Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas, 31 Abi‐albon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad, 32 Eliahba y Saalboniad; o feibion Jasen, Jonathan, 33 Samma yr Harariad, Ahïam mab Sarar yr Harariad, 34 Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Elïam mab Ahitoffel y Giloniad, 35 Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad, 36 Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, 37 Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia, 38 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 39 Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl.