
2 Samuel 16 Beibl William Morgan (BWM)16 Ac wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win. 2 A dywedodd y brenin wrth Siba, Beth yw y rhai hyn sydd gennyt? A Siba a ddywedodd, Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth, a bara a ffrwythydd haf i’r llanciau i’w bwyta, a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch, ydynt hwy. 3 A’r brenin a ddywedodd, A pha le y mae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad. 4 Yna y dywedodd y brenin wrth Siba, Wele, eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth. A Siba a ddywedodd, Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin. 5 A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a’i enw ef oedd Simei, mab Gera: efe a ddaeth allan, dan gerdded a melltigo. 6 Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a’r holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef. 7 Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio; Tyred allan, tyred allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i’r fall. 8 Yr Arglwydd a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le; a’r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni; canys gŵr gwaedlyd wyt ti. 9 Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia’r ci marw hwn fy arglwydd frenin? gad i mi fyned drosodd, atolwg, a thorri ei ben ef. 10 A’r brenin a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia? felly melltithied, oherwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Melltithia Dafydd. Am hynny pwy a ddywed, Paham y gwnei fel hyn? 11 A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr Arglwydd a archodd iddo. 12 Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn. 13 Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i’w erbyn ef. 14 A daeth y brenin, a’r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno. 15 Ac Absalom a’r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef. 16 A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin. 17 Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill? 18 A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd, a’r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi. 19 A phwy hefyd a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau. 20 Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni. 21 Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi. 22 Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ: ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad, yng ngŵydd holl Israel. 23 A chyngor Ahitoffel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymofynnai un â gair Duw: felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel, gyda Dafydd a chydag Absalom.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.