Add parallel Print Page Options

13 Ac ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi. Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi. Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn. Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd. A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymer arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi.

Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi. Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo. Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tylinodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau. A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef. 10 Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell. 11 A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer. 12 A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn. 13 A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, â’r brenin: canys ni omedd efe fi i ti. 14 Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi.

15 Yna Amnon a’i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas â’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad â’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith. 16 A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na’r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi. 17 Eithr efe a alwodd ar ei lanc, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa’r drws ar ei hôl hi. 18 Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys â’r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi.

19 A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi. 20 Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw â sôn, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd.

21 Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr. 22 Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef.

23 Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal‐hasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin. 24 Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di; deued, atolwg, y brenin a’i weision gyda’th was. 25 A dywedodd y brenin wrth Absalom, Nage, fy mab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno: ond ni fynnai efe fyned; eithr efe a’i bendithiodd ef. 26 Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, I ba beth yr â efe gyda thi? 27 Eto Absalom a fu daer arno, fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a holl feibion y brenin.

28 Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion. 29 A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant.

30 A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt. 31 Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â’u gwisgoedd yn rhwygedig. 32 A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef. 33 Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw. 34 Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd. 35 A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae. 36 A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn.

37 Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur: a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd. 38 Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd. 39 Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe.