2 Corinthiaid 8
Beibl William Morgan
8 Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; 2 Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. 3 Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; 4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint. 5 A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw: 6 Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd. 7 Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth. 8 Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi. 9 Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef. 10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd. 11 Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych. 12 Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo. 13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau; 14 Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra: 15 Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau. 16 Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus. 17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o’i wirfodd ei hun. 18 Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi; 19 Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â’r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi: 20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym: 21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion. 22 Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch. 23 Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd-weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau’r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist. 24 Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n bost ninnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.