Add parallel Print Page Options

24 Yn ei ddyddiau ef y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny, a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd: yna efe a drodd, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef. A’r Arglwydd a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid, a thorfoedd o’r Syriaid, a thorfoedd o’r Moabiaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a’u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i’w dinistrio hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi. Yn ddiau trwy orchymyn yr Arglwydd y bu hyn yn erbyn Jwda, i’w bwrw allan o’i olwg ef, o achos pechodau Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe; A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr Arglwydd ei faddau.

A’r rhan arall o hanes Joacim, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? A Joacim a hunodd gyda’i dadau; a Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o’i wlad: canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft, o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates.

Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Nehusta, merch Elnathan o Jerwsalem. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.

10 Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem, a gwarchaewyd ar y ddinas. 11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas, a’i weision ef a warchaeasant arni hi. 12 A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon, efe, a’i fam, a’i weision, a’i dywysogion, a’i ystafellyddion: a brenin Babilon a’i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad. 13 Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nheml yr Arglwydd, fel y llefarasai yr Arglwydd. 14 Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem, yr holl dywysogion hefyd, a’r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phob saer, a gof: ni adawyd ond pobl dlodion y wlad yno. 15 Efe hefyd a ddug ymaith Joachin i Babilon, a mam y brenin, a gwragedd y brenin, a’i ystafellyddion, a chedyrn y wlad a ddug efe i gaethiwed o Jerwsalem i Babilon. 16 A’r holl wŷr nerthol, sef saith mil; ac o seiri a gofaint, mil, y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwyr: hwynt‐hwy a ddug brenin Babilon yn gaeth i Babilon.

17 A brenin Babilon a osododd Mataneia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef, ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia. 18 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna. 19 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joachin. 20 Canys trwy ddigofaint yr Arglwydd y bu hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda, nes iddo eu taflu hwynt allan o’i olwg, fod i Sedeceia wrthryfela yn erbyn brenin Babilon.