Add parallel Print Page Options

Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid; Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth; Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i’w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd. Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i’w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch. Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi. Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd. Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad. 10 Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid. 11 Y pethau hyn gorchymyn a dysg. 12 Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb. 13 Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. 14 Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. 15 Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. 16 Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat.