Add parallel Print Page Options

A gwŷr Ciriath-jearim a ddaethant, ac a gyrchasant i fyny arch yr Arglwydd, ac a’i dygasant hi i dŷ Abinadab, yn y bryn, ac a sancteiddiasant Eleasar ei fab ef i gadw arch yr Arglwydd. Ac o’r dydd y trigodd yr arch yn Ciriath-jearim, y bu ddyddiau lawer; nid amgen nag ugain mlynedd: a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr Arglwydd.

A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr Arglwydd â’ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o’ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid. Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a’r Arglwydd yn unig a wasanaethasant. A dywedodd Samuel, Cesglwch holl Israel i Mispa, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr Arglwydd. A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a’i tywalltasant gerbron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr Arglwydd. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa. A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa, arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhag y Philistiaid. A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di â gweiddi drosom at yr Arglwydd ein Duw, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.

A Samuel a gymerth laethoen, ac a’i hoffrymodd ef i gyd yn boethoffrwm i’r Arglwydd: a Samuel a waeddodd ar yr Arglwydd dros Israel; a’r Arglwydd a’i gwrandawodd ef. 10 A phan oedd Samuel yn offrymu’r poethoffrwm, y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel: a’r Arglwydd a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac a’u drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel. 11 A gwŷr Israel a aethant o Mispa, ac a erlidiasant y Philistiaid, ac a’u trawsant hyd oni ddaethant dan Bethcar. 12 A chymerodd Samuel faen, ac a’i gosododd rhwng Mispa a Sen, ac a alwodd ei enw ef Ebeneser; ac a ddywedodd, Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nyni.

13 Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel: a llaw yr Arglwydd a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel. 14 A’r dinasoedd, y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel, a roddwyd adref i Israel, o Ecron hyd Gath; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd heddwch rhwng Israel a’r Amoriaid. 15 A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd. 16 Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddi amgylch i Bethel, a Gilgal, a Mispa, ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny. 17 A’i ddychwelfa ydoedd i Rama; canys yno yr oedd ei dŷ ef: yno hefyd y barnai efe Israel; ac yno yr adeiladodd efe allor i’r Arglwydd.