Add parallel Print Page Options

17 Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynullasant yn Socho, yr hon sydd yn Jwda, ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca, yng nghwr Dammim. Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid. A’r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o’r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o’r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt.

A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a’i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant. A helm o bres ar ei ben, a llurig emog a wisgai: a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres. A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau. A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef. Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi. Os gall efe ymladd â mi, a’m lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os myfi a’i gorchfygaf ef, ac a’i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni. 10 A’r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch ataf fi ŵr, fel yr ymladdom ynghyd. 11 Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.

12 A’r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda, a’i enw Jesse; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion: a’r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr. 13 A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i’r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd Eliab y cyntaf-anedig, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd. 14 A Dafydd oedd ieuangaf: a’r tri hynaf a aeth ar ôl Saul. 15 Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul, i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem. 16 A’r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod. 17 A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i’th frodyr effa o’r cras ŷd hwn, a’r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i’r gwersyll at dy frodyr. 18 Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl â’th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt. 19 Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel, oeddynt yn nyffryn Ela, yn ymladd â’r Philistiaid.

20 A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i’r gwersyll, a’r llu yn myned allan i’r gad, ac yn bloeddio i’r frwydr. 21 Canys Israel a’r Philistiaid a ymfyddinasant, fyddin yn erbyn byddin. 22 A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i’r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i’w frodyr. 23 A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu, yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid, Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd. 24 A holl wŷr Israel, pan welsant y gŵr hwnnw, a ffoesant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr. 25 A dywedodd gwŷr Israel, Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny: a’r gŵr a’i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel. 26 A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw? 27 A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i’r gŵr a’i lladdo ef.

28 Ac Eliab, ei frawd hynaf, a’i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â’r gwŷr: a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered. 29 A dywedodd Dafydd, Beth a wneuthum i yn awr? Onid oes achos?

30 Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall, ac a ddywedodd yr un modd: a’r bobl a’i hatebasant ef air yng ngair fel o’r blaen. 31 A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul: ac efe a anfonodd amdano ef.

32 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â’r Philistiad hwn. 33 A dywedodd Saul wrth Dafydd, Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn, i ymladd ag ef: canys llanc ydwyt ti, ac yntau sydd yn rhyfelwr o’i febyd. 34 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth llew ac arth, ac a gymerasant oen o’r praidd. 35 A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a’i trewais ef, ac a’i hachubais o’i safn ef: a phan gyfododd efe i’m herbyn i, mi a ymeflais yn ei farf ef, ac a’i trewais, ac a’i lleddais ef. 36 Felly dy was di a laddodd y llew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw. 37 Dywedodd Dafydd hefyd, Yr Arglwydd, yr hwn a’m hachubodd i o grafanc y llew, ac o balf yr arth, efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Dos, a’r Arglwydd fyddo gyda thi.

38 A Saul a wisgodd Dafydd â’i arfau ei hun, ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef, ac a’i gwisgodd ef mewn llurig. 39 A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gerdded; am na phrofasai efe. A dywedodd Dafydd wrth Saul, Ni allaf gerdded yn y rhai hyn: canys ni phrofais i. A Dafydd a’u diosgodd oddi amdano. 40 Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon, ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a’i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad. 41 A’r Philistiad a gerddodd, gan fyned a nesáu at Dafydd; a’r gŵr oedd yn dwyn y darian o’i flaen ef. 42 A phan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, efe a’i diystyrodd ef; canys llanc oedd efe, a gwritgoch, a theg yr olwg. 43 A’r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ci ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn? A’r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef. 44 Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd, Tyred ataf fi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes. 45 Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti. 46 Y dydd hwn y dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel. 47 A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni. 48 A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua’r fyddin i gyfarfod â’r Philistiad. 49 A Dafydd a estynnodd ei law i’r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a daflodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen; a’r garreg a soddodd yn ei dalcen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb. 50 Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd. 51 Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a’i tynnodd o’r wain, ac a’i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant. 52 A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant, ac a floeddiasant; ac a erlidiasant y Philistiaid, hyd y ffordd y delych i’r dyffryn, a hyd byrth Ecron. A’r Philistiaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim, sef hyd Gath, a hyd Ecron. 53 A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid, ac a anrheithiasant eu gwersylloedd hwynt. 54 A Dafydd a gymerodd ben y Philistiad, ac a’i dug i Jerwsalem; a’i arfau ef a osododd efe yn ei babell.

55 A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â’r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y filwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i. 56 A dywedodd y brenin, Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn. 57 A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, Abner a’i cymerodd ef ac a’i dug o flaen Saul, a phen y Philistiad yn ei law. 58 A Saul a ddywedodd wrtho ef, Mab i bwy wyt ti, y gŵr ieuanc? A dywedodd Dafydd, Mab i’th was Jesse y Bethlehemiad.