Add parallel Print Page Options

12 A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch. Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn. Wele fi; tystiolaethwch i’m herbyn gerbron yr Arglwydd, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a’i talaf i chwi. A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb. Dywedodd yntau wrthynt, Yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A’r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.

A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr Arglwydd yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a’r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft. Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr Arglwydd, am holl gyfiawnderau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i’ch tadau. Wedi i Jacob ddyfod i’r Aifft, a gweiddi o’ch tadau chwi ar yr Arglwydd, yna yr Arglwydd a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o’r Aifft, ac a’u cyfleasant hwy yn y lle hwn. A phan angofiasant yr Arglwydd eu Duw, efe a’u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i’w herbyn hwynt. 10 A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr Arglwydd, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a’th wasanaethwn di. 11 A’r Arglwydd a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a’ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel. 12 A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a’r Arglwydd eich Duw yn frenin i chwi. 13 Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a’r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi. 14 Os ofnwch chwi yr Arglwydd, a’i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y byddwch chwi, a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr Arglwydd eich Duw. 15 Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd, eithr anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y bydd llaw yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.

16 Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi. 17 Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr Arglwydd; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr Arglwydd, yn gofyn i chwi frenin. 18 Felly Samuel a alwodd ar yr Arglwydd; a’r Arglwydd a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw; a’r holl bobl a ofnodd yr Arglwydd a Samuel yn ddirfawr. 19 A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr Arglwydd dy Dduw, fel na byddom feirw; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.

20 A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd, ond gwasanaethwch yr Arglwydd â’ch holl galon; 21 Ac na chiliwch: canys felly yr aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni’ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy. 22 Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i’r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun. 23 A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn. 24 Yn unig ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â’ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch. 25 Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a’ch brenin a ddifethir.