Add parallel Print Page Options

21 A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel. A dywedodd Dafydd wrth Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt. A dywedodd Joab, Chwaneged yr Arglwydd ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweision i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel? Ond gair y brenin a fu drech na Joab: a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.

A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf; a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf. Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin. A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel. A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd, 10 Dos, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti. 11 Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cymer i ti. 12 Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr Arglwydd, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr Arglwydd yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd. 13 A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr Arglwydd, canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.

14 Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr. 15 A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr Arglwydd a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 16 A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau. 17 A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O Arglwydd fy Nuw, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.

18 Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 19 A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr Arglwydd. 20 Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a’i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith. 21 A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i wyneb tua’r ddaear. 22 A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i’r Arglwydd: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl. 23 Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf. 24 A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r Arglwydd yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad. 25 Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys. 26 Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr Arglwydd; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm. 27 A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.

28 Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, efe a aberthodd yno. 29 Ond tabernacl yr Arglwydd, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon: 30 Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn â Duw; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr Arglwydd.