Add parallel Print Page Options

17 Ac Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i. A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dos oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno. Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn: ac efe a yfai o’r afon. Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad.

A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno. 10 Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf. 11 Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law. 12 A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw. 13 Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny. 14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r ystên ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaear. 15 A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i thylwyth, ysbaid blwyddyn. 16 Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ystên olew ni ddarfu, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias.

17 Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef mor gryf, fel na thrigodd anadl ynddo. 18 A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffáu fy anwiredd, ac i ladd fy mab? 19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a’i cymerth ef o’i mynwes hi, ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun. 20 Ac efe a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi? 21 Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith. 22 A’r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd. 23 Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ, ac a’i rhoddes ef i’w fam: ac Eleias a ddywedodd, Gwêl, byw yw dy fab.

24 A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr Arglwydd yn dy enau di.