Add parallel Print Page Options

14 Y pryd hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam. A Jeroboam a ddywedodd wrth ei wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahïa y proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma. A chymer yn dy law ddeg o fara, a theisennau, a chostrelaid o fêl, a dos ato ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen. A gwraig Jeroboam a wnaeth felly; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo, ac a ddaeth i dŷ Ahïa. Ond ni allai Ahïa weled; oherwydd ei lygaid ef a ballasai oblegid ei henaint.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Ahïa, Wele, y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennyt dros ei mab; canys claf yw efe: fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi: canys pan ddelo hi i mewn, hi a ymddieithra. A phan glybu Ahïa drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws, efe a ddywedodd, Tyred i mewn, gwraig Jeroboam; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro? canys myfi a anfonwyd atat ti â newyddion caled. Dos, dywed wrth Jeroboam, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Yn gymaint â darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl, a’th wneuthur di yn flaenor ar fy mhobl Israel, A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a’i rhoddi i ti; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i â’i holl galon, i wneuthur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i; Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn: 10 Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dŷ Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeëdig a’r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod. 11 Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr Arglwydd a’i dywedodd. 12 Cyfod di gan hynny, dos i’th dŷ: a phan ddelo dy draed i’r ddinas, bydd marw y bachgen. 13 A holl Israel a alarant amdano ef, ac a’i claddant ef: canys efe yn unig o Jeroboam a ddaw i’r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, yn nhŷ Jeroboam. 14 Yr Arglwydd hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyr ymaith dŷ Jeroboam y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie, yn awr. 15 Canys yr Arglwydd a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oherwydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr Arglwydd i ddigofaint. 16 Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a’r hwn a wnaeth i Israel bechu.

17 A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen. 18 A hwy a’i claddasant ef; a holl Israel a alarasant amdano, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y proffwyd. 19 A’r rhan arall o weithredoedd Jeroboam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y teyrnasodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel. 20 A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a hunodd gyda’i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21 A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. 22 A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent. 23 Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas. 24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

25 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem. 26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin; efe a’u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon. 27 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. 28 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, y rhedegwyr a’u dygent hwy, ac a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr.

29 A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 30 A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau. 31 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. Ac Abeiam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.