
1 Samuel 21 Beibl William Morgan (BWM)21 Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi? 2 A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o’r peth am yr hwn y’th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a’r gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle. 3 Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bum torth yn fy llaw, neu y peth sydd i’w gael. 4 A’r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cysegredig: os y llanciau a ymgadwasant o’r lleiaf oddi wrth wragedd. 5 A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a’r bara sydd megis cyffredin, ie, petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr. 6 Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr Arglwydd, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith. 7 Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr Arglwydd, a’i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o’r bugeiliaid oedd gan Saul. 8 A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na’m harfau chwaith i’m llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst. 9 A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Goleiath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ôl i’r effod: o chymeri hwnnw i ti, cymer; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid oes o fath hwnnw; dyro ef i mi. 10 Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenin Gath. 11 A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn? 12 A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath. 13 Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf. 14 Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi; paham y dygasoch ef ataf fi? 15 Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m tŷ i?
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.