Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Welcome to the new Bible Gateway. Take a quick tour and see what’s new.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Finding your way around? Take the tour.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

1 Corinthiaid 12  Beibl William Morgan

12 Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynnwn i chwi fod heb wybod. 2 Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y’ch tywysid. 3 Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy’r Ysbryd Glân. 4 Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd. 5 Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd. 6 Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb: 7 Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd. 8 Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd; 9 Ac i arall ffydd, trwy’r un Ysbryd; ac i arall ddawn i iacháu, trwy’r un Ysbryd; 10 Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau. 11 A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o’r neilltu megis y mae yn ewyllysio. 12 Canys fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd. 13 Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd. 14 Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer. 15 Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw efe o’r corff? 16 Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw hi o’r corff? 17 Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r clywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad? 18 Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe. 19 Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff? 20 Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff. 21 Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. 22 Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol: 23 A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch. 24 Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol: 25 Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd. 26 A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd‐ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau. 27 Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran. 28 A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau. 29 Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb? 30 A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu? 31 Eithr deisyfwch y doniau gorau: ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.

Next
1 Corinthiaid 11
1 Corinthiaid 13
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway