Add parallel Print Page Options

113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.