Add parallel Print Page Options

A bu, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab. Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effrateaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno. Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a adawyd. A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i gŵr.

A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r Arglwydd ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara. A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyda hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda. A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac â minnau. Yr Arglwydd a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. 10 A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di. 11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi? 12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gŵr, ac ymddŵyn meibion hefyd; 13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr Arglwydd fyned i’m herbyn. 14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi. 15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith. 16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau: 17 Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau. 18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi.

19 Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan ddaethant i Bethlehem, yr holl ddinas a gyffrôdd o’u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi? 20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi. 21 Myfi a euthum allan yn gyflawn, a’r Arglwydd a’m dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i’r Arglwydd fy narostwng, ac i’r Hollalluog fy nrygu? 22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Foabes ei gwaudd gyda hi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab: a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechrau cynhaeaf yr heiddiau.