Add parallel Print Page Options

Gwae fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i’w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf. Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.

I wneuthur drygioni â’r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a’r barnwr am wobr; a’r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef. Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a’th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt.

Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes. Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ. Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth: fy Nuw a’m gwrendy.

Na lawenycha i’m herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr Arglwydd a lewyrcha i mi. Dioddefaf ddig yr Arglwydd, canys pechais i’w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a’m dwg allan i’r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef. 10 A’m gelynes a gaiff weled, a chywilydd a’i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr Arglwydd dy Dduw? fy llygaid a’i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd. 11 Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf. 12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o’r dinasoedd cedyrn, ac o’r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. 13 Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd.

14 Portha dy bobl â’th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt. 15 Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau.

16 Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant. 17 Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o’u llochesau: arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni, ac o’th achos di yr ofnant.

18 Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. 19 Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. 20 Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.