Add parallel Print Page Options

34 Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd, Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch. Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd. Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda. Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf: a Duw a ddug ymaith fy marn. A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd. Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr? Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol. Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw. 10 Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd. 11 Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun. 12 Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn. 13 Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd? 14 Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef; 15 Pob cnawd a gyd‐drenga, a dyn a ddychwel i’r pridd. 16 Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion. 17 A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol? 18 A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion? 19 Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll. 20 Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a’r cadarn a symudir heb waith llaw. 21 Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef. 22 Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio. 23 Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw. 24 Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt. 25 Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir. 26 Efe a’u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg: 27 Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef: 28 Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol. 29 Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig: 30 Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl. 31 Ond wrth Dduw, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd; 32 Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy. 33 Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a’i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost. 34 Gwŷr call, dywedant i mi; a’r gŵr doeth, clywed fi. 35 Job a ddywedodd yn annoeth; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb. 36 Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir. 37 Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.