Add parallel Print Page Options

16 Ajob a atebodd ac a ddywedodd, Clywais lawer o’r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll. Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb? Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch. Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid. Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid? Ond yn awr efe a’m blinodd i; anrheithiaist fy holl gynulleidfa: A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a’m culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb. Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn. 10 Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn. 11 Duw a’m rhoddes i’r anwir; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion. 12 Yr oeddwn yn esmwyth; ond efe a’m drylliodd, ac a ymaflodd yn fy ngwddf, ac a’m drylliodd yn chwilfriw, ac a’m cododd yn nod iddo ei hun. 13 Ei saethyddion ef sydd yn fy amgylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear. 14 Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr. 15 Gwnïais sachlen ar fy nghroen, a halogais fy nghorn yn y llwch. 16 Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau: 17 Er nad oes gamwedd yn fy nwylo; a bod fy ngweddi yn bur. 18 O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i’m gwaedd. 19 Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a’m tystiolaeth yn yr uchelder. 20 Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw. 21 O na châi un ymddadlau â Duw dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog! 22 Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.