Add parallel Print Page Options

48 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd. Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a’th erlid. Llef yn gweiddi a glywir o Horonaim; anrhaith, a dinistr mawr. Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd. Canys yn rhiw Luhith, galar a â i fyny mewn wylofain, ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr. Ffowch, achubwch eich einioes; a byddwch fel y grug yn yr anialwch.

Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun, tithau a ddelir: Cemos hefyd a â allan i gaethiwed, a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd. A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a’r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr Arglwydd. Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt. 10 Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus, a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed.

11 Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei blas arni, ac ni newidiodd ei harogl. 12 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a’i mudant hi, ac a wacânt ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau. 13 A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt.

14 Pa fodd y dywedwch chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel? 15 Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o’i dinasoedd, a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa, medd y Brenin, a’i enw Arglwydd y lluoedd. 16 Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest. 17 Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o’i hamgylch; a phawb a’r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a’r wialen hardd! 18 O breswylferch Dibon, disgyn o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched; canys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd. 19 Preswylferch Aroer, saf ar y ffordd, a gwylia; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi, ac i’r hwn a ddihango, a dywed, Beth a ddarfu? 20 Gwaradwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: udwch, a gwaeddwch; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab; 21 A barn a ddaw ar y tir gwastad, ar Holon, ac ar Jahasa, ac ar Meffaath, 22 Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Beth‐diblathaim, 23 Ac ar Ciriathaim, ac ar Beth‐gamul, ac ar Beth‐meon. 24 Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos. 25 Corn Moab a ysgythrwyd, a’i braich hi a dorrwyd, medd yr Arglwydd.

26 Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd. 27 Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ymysg lladron? canys er pan soniaist amdano, yr ymgynhyrfaist. 28 Trigolion Moab, gadewch y dinasoedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colomen yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twll. 29 Nyni a glywsom falchder Moab, (y mae hi yn falch iawn,) ei huchder, ei rhyfyg, a’i hymchwydd, ac uchder ei chalon. 30 Myfi a adwaen ei llid hi, medd yr Arglwydd; ond nid felly y bydd; ei chelwyddau hi ni wnânt felly. 31 Am hynny yr udaf fi dros Moab, ac y gwaeddaf dros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir‐heres. 32 Myfi a wylaf drosot ti, gwinwydden Sibma, ag wylofain Jaser; dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Jaser y cyrhaeddant: yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf gwin. 33 A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o’r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest. 34 O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd. 35 Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a’r hwn sydd yn arogldarthu i’w dduwiau. 36 Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir‐heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd. 37 Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain. 38 Ar holl bennau tai Moab, a’i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr Arglwydd. 39 Hwy a udant, gan ddywedyd, Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch. 40 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei adenydd dros Moab. 41 Y dinasoedd a oresgynnir, a’r amddiffynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor. 42 A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd. 43 Ofn, a ffos, a magl a ddaw arnat ti, trigiannol Moab, medd yr Arglwydd. 44 Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfyd o’r ffos, a ddelir yn y fagl: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr Arglwydd. 45 Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr. 46 Gwae di, Moab! darfu am bobl Cemos: canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion, a’th ferched yn gaethion.

47 Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf, medd yr Arglwydd. Hyd yma y mae barn Moab.