Add parallel Print Page Options

30 Gwna hefyd allor i arogldarthu arogldarth: o goed Sittim y gwnei di hi. Yn gufydd ei hyd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o’r un. A gwisg hi ag aur coeth, ei chefn a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch. A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i’w dwyn hi arnynt. A’r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur. A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi. Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore: pan daclo efe y lampau, yr arogldartha efe. A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogldarthed arni arogl‐darth gwastadol gerbron yr Arglwydd, trwy eich cenedlaethau. Nac offrymwch arni arogl‐darth dieithr, na phoethoffrwm, na bwyd‐offrwm; ac na thywelltwch ddiod‐offrwm arni. 10 A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau: sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi.

11 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 12 Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r Arglwydd, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt. 13 Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr: ugain gera yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd. 14 Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i’r Arglwydd. 15 Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau. 16 A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

17 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 18 Gwna noe bres, a’i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: a dod ynddi ddwfr. 19 A golched Aaron a’i feibion ohoni eu dwylo a’u traed. 20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i’r Arglwydd. 21 Golchant eu dwylo a’u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i’w had, trwy eu cenedlaethau.

22 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 23 Cymer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau; 24 Ac o’r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden. 25 A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe. 26 Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, 27 Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth. 28 Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed. 29 A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd. 30 Eneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi. 31 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau. 32 Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych. 33 Pwy bynnag a gymysgo ei fath, a’r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

34 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un. 35 A gwna ef yn arogl‐darth aroglber o waith yr apothecari, wedi ei gyd‐dymheru, yn bur ac yn sanctaidd. 36 Gan guro cur yn fân beth ohono, a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi. 37 A’r arogl‐darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd. 38 Pwy bynnag a wnêl ei fath ef, i arogli ohono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.