Add parallel Print Page Options

16 Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr Arglwydd y mae. Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa yr ysbrydion. Treigla dy weithredoedd ar yr Arglwydd, a’th feddyliau a safant. Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg. Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog. Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr Arglwydd y mae ymado oddi wrth ddrwg. Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r Arglwydd, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef. Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam. Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef. 10 Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn. 11 Pwys a chloriannau cywir, yr Arglwydd a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god. 12 Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd. 13 Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn. 14 Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega. 15 Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar. 16 Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian. 17 Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid. 18 Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp. 19 Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion. 20 A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, O gwyn ei fyd hwnnw! 21 Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth. 22 Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb. 23 Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau. 24 Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn. 25 Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth. 26 Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo. 27 Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth. 28 Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion. 29 Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda. 30 Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben. 31 Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder. 32 Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas. 33 Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodraethiad ef.