Add parallel Print Page Options

Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a’n Hachubwr Iesu Grist: Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd: Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth; Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad. Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. 10 Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: 11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist. 12 Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol. 13 Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi; 14 Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. 15 Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn. 16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. 17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 18 A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. 19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi: 20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. 21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.