Add parallel Print Page Options

Yr un ffunud, bydded y gwragedd ostyngedig i’w gwŷr priod; fel, od oes rhai heb gredu i’r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hennill hwy heb y gair, Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn. Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch-osodiad aur, neu wisgad dillad; Eithr bydded cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr. Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fod yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod; Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd: merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn. Y gwŷr, yr un ffunud, cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i’r wraig megis i’r llestr gwannaf, fel rhai sydd gyd-etifeddion gras y bywyd; rhag rhwystro eich gweddïau. Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â’ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd: Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith. 10 Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a’i wefusau rhag adrodd twyll: 11 Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef. 12 Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg. 13 A phwy a’ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda? 14 Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na’ch cynhyrfer; 15 Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn: 16 A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist. 17 Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a’i myn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni. 18 Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd: 19 Trwy’r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i’r ysbrydion yng ngharchar; 20 Y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr. 21 Cyffelybiaeth cyfatebol i’r hwn sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd, (nid bwrw ymaith fudreddi’r cnawd, eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw;) trwy atgyfodiad Iesu Grist: 22 Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nef; a’r angylion, a’r awdurdodau, a’r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.

Wives, in the same way submit yourselves(A) to your own husbands(B) so that, if any of them do not believe the word, they may be won over(C) without words by the behavior of their wives, when they see the purity and reverence of your lives. Your beauty should not come from outward adornment, such as elaborate hairstyles and the wearing of gold jewelry or fine clothes.(D) Rather, it should be that of your inner self,(E) the unfading beauty of a gentle and quiet spirit, which is of great worth in God’s sight.(F) For this is the way the holy women of the past who put their hope in God(G) used to adorn themselves.(H) They submitted themselves to their own husbands, like Sarah, who obeyed Abraham and called him her lord.(I) You are her daughters if you do what is right and do not give way to fear.

Husbands,(J) in the same way be considerate as you live with your wives, and treat them with respect as the weaker partner and as heirs with you of the gracious gift of life, so that nothing will hinder your prayers.

Suffering for Doing Good

Finally, all of you, be like-minded,(K) be sympathetic, love one another,(L) be compassionate and humble.(M) Do not repay evil with evil(N) or insult with insult.(O) On the contrary, repay evil with blessing,(P) because to this(Q) you were called(R) so that you may inherit a blessing.(S) 10 For,

“Whoever would love life
    and see good days
must keep their tongue from evil
    and their lips from deceitful speech.
11 They must turn from evil and do good;
    they must seek peace and pursue it.
12 For the eyes of the Lord are on the righteous
    and his ears are attentive to their prayer,
but the face of the Lord is against those who do evil.”[a](T)

13 Who is going to harm you if you are eager to do good?(U) 14 But even if you should suffer for what is right, you are blessed.(V) “Do not fear their threats[b]; do not be frightened.”[c](W) 15 But in your hearts revere Christ as Lord. Always be prepared to give an answer(X) to everyone who asks you to give the reason for the hope(Y) that you have. But do this with gentleness and respect, 16 keeping a clear conscience,(Z) so that those who speak maliciously against your good behavior in Christ may be ashamed of their slander.(AA) 17 For it is better, if it is God’s will,(AB) to suffer for doing good(AC) than for doing evil. 18 For Christ also suffered once(AD) for sins,(AE) the righteous for the unrighteous, to bring you to God.(AF) He was put to death in the body(AG) but made alive in the Spirit.(AH) 19 After being made alive,[d] he went and made proclamation to the imprisoned spirits(AI) 20 to those who were disobedient long ago when God waited patiently(AJ) in the days of Noah while the ark was being built.(AK) In it only a few people, eight in all,(AL) were saved(AM) through water, 21 and this water symbolizes baptism that now saves you(AN) also—not the removal of dirt from the body but the pledge of a clear conscience(AO) toward God.[e] It saves you by the resurrection of Jesus Christ,(AP) 22 who has gone into heaven(AQ) and is at God’s right hand(AR)—with angels, authorities and powers in submission to him.(AS)

Footnotes

  1. 1 Peter 3:12 Psalm 34:12-16
  2. 1 Peter 3:14 Or fear what they fear
  3. 1 Peter 3:14 Isaiah 8:12
  4. 1 Peter 3:19 Or but made alive in the spirit, 19 in which also
  5. 1 Peter 3:21 Or but an appeal to God for a clear conscience